Fy Trivallis i

Eich Tîm Cymdogaeth

Eisiau dysgu rhagor am eich tîm cymdogaeth? Teipiwch eich cod post i ddysgu rhagor.

Cefnogi eich cymdogaeth

Mae ein Swyddogion Tai Cymunedol yn gweithio’n uniongyrchol gyda thenantiaid bob dydd, gan eu helpu i ddatrys unrhyw broblemau tai sydd ganddynt.

I ddod o hyd i fanylion eich Swyddog Tai Cymunedol, defnyddiwch y gwiriwr cod post uchod neu mewngofnodwch i Fy Trivallis i.

Nid yw’r gwiriwr cod post ar gael ar gyfer cynlluniau tai gwarchod. Os ydych chi angen cysylltu â Chydlynydd eich Cynllun, ffoniwch 03000 030 888.

Sesiynau galw heibio cymdogaeth ac arolygiadau ystadau

Mae eich Swyddog Tai Cymunedol yn cynnig sesiynau galw heibio yn rheolaidd, lle y gallwch chi ofyn cwestiynau a chael help a chymorth ag unrhyw faterion tai. Maen nhw yma i wrando a gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion.

I gadw ein cymdogaethau yn lân ac yn ddiogel, mae Swyddogion Tai Cymunedol yn archwilio pob ystâd yn rheolaidd. Mae gwahoddiad i chi ymuno â’n Swyddog Tai Cymunedol yn ystod y teithiau archwilio hyn.

Beth sy’n digwydd?

Mae ein tudalen ar raglenni adfywio yn cynnwys y diweddaraf am ddatblygiadau newydd a phrosiectau mawr yn eich ardal.

Ein cymunedau yn ardal Cynon

  • Hirwaun
  • Cwmdare
  • Penderyn
  • Rhigos
  • Penywaun
  • Trecynon
  • Aberaman
  • Aberdare Town
  • Abernant
  • Cwmaman
  • Llywdcoed
  • Cefnpennar
  • Cwmbach
  • Mountain Ash
  • Fernhill
  • Abercynon
  • Perthcelyn
  • Matthewstown
  • Ynysboeth

Tai gwarchod yn ardal Cynon

  • The Haven
  • Blaengwawr Close
  • Llys Gwernifor
  • Cwrt Ynysmeurig