Fy Trivallis i

Cyflwyniad

Mae’n amser cyffrous i ymuno â Trivallis. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar newidiadau mawr gyda’n staff, ein tenantiaid a’n Bwrdd i ailystyried ein cenhadaeth a’n gwerthoedd. Rydyn ni wedi lansio strategaeth gwasanaethau tenantiaid newydd uchelgeisiol i ysgogi ein gwasanaethau allweddol ar gyfer tenantiaid a meithrin cysylltiadau cryfach, mwy cadarnhaol â chymunedau.

Rydyn ni’n arloesi model newydd cyffrous o weithio o’r enw tîm o amgylch y tenant. Bydd y model hwn yn darparu cymorth tai â ffocws, wedi’i bersonoli i’n tenantiaid a bydd yn uno ein timau mewn ffordd bwerus, gan ein helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol a chydweithio gyda’r un diben mewn golwg—sicrhau’r gorau i’n tenantiaid!

Rydyn ni’n ehangu ein tîm i ddarparu’r dull newydd beiddgar hwn, ac yn chwilio am weithwyr tai proffesiynol tosturiol a rhagweithiol i symud pethau ymlaen. Os ydych chi’n chwilio am her yrfa newydd ac eisiau dylanwadu ar ddyfodol tai yn y De, darllenwch ymlaen.

Rhesymau dros wneud cais

1. Sylfeini diogel

Rydyn ni’n gymdeithas tai gymunedol gydfuddiannol sy’n eiddo i’n tenantiaid. Rydyn ni wedi’n hymwreiddio yn ein cymunedau lleol, ac yn gweithio trwy gydweithio a phartneriaeth. Gyda dros 10,000 o gartrefi, ni yw un o’r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru.

2. Gwerthoedd sy’n ein harwain

Rydyn ni’n cael ein harwain gan ein gwerthoedd – i fod yn garedig, cynhwysol, blaengar a dibynadwy. Ein nod yw gwella lles cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddyn nhw fel y gallan nhw ffynnu.

3. Adeiladu cymunedau

Mae adfywio cymunedol, a datblygiad yn ganolog i’n gwaith. Mae cyfranogiad tenantiaid a chyfathrebu cydweithredol yn flaenoriaethau i ni, wrth i ni fynd ati i annog cyfranogiad cymunedol, cefnogi mentrau adfywio, ac ehangu lleisiau’r rhai rydyn ni’n eu gwasanaethu.

4. Diwylliant sy'n canolbwyntio ar denantiaid

Mae pawb yn Trivallis yn gweithio’n galed i roi anghenion ein tenantiaid yn gyntaf, meithrin cydberthnasau cydweithredol a darparu gwasanaeth gwych. Rydyn ni’n deall pwysigrwydd gofalu am ein gweithwyr i greu diwylliant cefnogol, cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar denantiaid.

5. Ymrwymiad i amrywiaeth

Rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth o bob math ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, a ddaw ag ystod eang o sgiliau, profiadau a safbwyntiau i ni. Mae’r ymrwymiad hwn yn ein helpu i greu gweithle heb ei ail a chael hyd yn oed mwy o effaith trwy ein gwaith ledled y De.

6. Buddion a manteision gwych

Yn ogystal ag amgylchedd gwaith gwych gydag ymdeimlad cymunedol cryf a llond gwlad o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu, gallwch ddisgwyl pecyn hael o fuddion a manteision.

Dyddiad cau i wneud cais: Dydd Sul 1 Rhagfyr 2024, hanner nos

Lawrlwythwch y pecyn ymgeisydd ar gyfer pob rôl a gwnewch gais ar-lein.

Diolch am ystyried gyrfa gyda Trivallis

Mae ein hymrwymiad i ragoriaeth, diwylliant sy’n cael ei yrru gan werthoedd, ac ymroddiad i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwneud yn lle cyffrous a gwerth chweil i weithio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â Rowena Griffith-Lewis i drefnu sgwrs anffurfiol gyda’n Rheolwyr Llogi Keiron Montague a Derek Streek, neu ein tîm Gwasanaethau Pobl. Mae eich taith gyda Trivallis yn dechrau yma, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld lle awn ni.

Crëwyd gyda Notebook LM

Gwrandewch ar ein podlediad am y strategaeth Gwasanaethau Tenantiaid

Trivallis Housing Landlord Wales A person with long hair smiles while speaking into a microphone, protected by a pop filter, with a white brick wall in the background for a podcast.